Mae Jac yn naw oed ac yn edrych ar ei dad fel arwr, ond pan fo Jac yn ymuno â thîm pêl-droed lleol gyda'i ffrind gorau Zac, mae pethau'n dechrau mynd braidd yn rhyfedd gartref. Pan fo criw o bêl-droedwyr proffesiynol yn dod i'r ysgol i siarad am hiliaeth, mae Jac yn sylweddoli beth allai problem ei dad fod.