Mae Llyfrau Melin Bapur yn falch iawn i gyflwyno Yr Hobyd , cyfieithiad i'r Gymraeg o The Hobbit , clasur ffantasi J.R.R. Tolkien am arwyr, dreigiau, hud a lledrith a lladrad. Dyma'r cyhoeddiad cyntaf o unrhyw waith gan J.R.R. Tolkien yn y Gymraeg, ac mae'r cyfieithiad gan Adam Pearce, sydd wedi cyfieithu gwaith Daniel Owen, T. Gwynn Jones ac H.G. Wells, wedi'i lunio'n dilyn cyfarwyddiadau penodol J.R.R. Tolkien i gyfieithwyr, a dan drwydded swyddogol i ystad yr awdur.
Gyda darluniau gwreiddiol J.R.R. Tolkien a fersiynau Cymraeg newydd o'r mapiau yn y nofel wreiddiol.