Dyma gasgliad o 30 o straeon arloesol, y rhan fwya ohonynt wedi'u gosod yn 'un o brifddinasoedd gorau Ewrop'. Ond trueiniaid bywyd, collwyr, anffodusion yw'r cymeriadau sy wedi eu clwyfo a'u cam-drin, yn diodde o salwch corfforol a meddyliol, heb wireddu eu potensial na'u huchelgais ac yn sigo dan bwysau unigrwydd.