Dilyniant i Dyddiadur Gbara yw'r gyfrol hon sy'n adrodd hanes ail daith Bethan Gwanas i ardal wledig yn Affrica. Cafodd Bethan ei ffilmio'n dychwelyd i Gbara yn Nigeria, wedi iddi dreulio dau dymor yno fel gweithiwr gwirfoddol yn yr 1980au. Mae'r stori bersonol a byrlymus hon yn dangos sut y bu i berthynas yr awdur â Gbara ddyfnhau yn sgil ei hail ymweliad.