Stori am eneth o'r enw Mali Meredur yw hon, sy'n datblygu drwy'r nofel o fod yn eneth ddiniwed, anwybodus i fod yn wraig ddeugain oed gref ac arwrol. Ceir hefyd ddarlun byw o fywyd cefn gwlad Cymru ynghanol yr 19eg ganrif cyn bod Gwladwriaeth Les i ofalu am y gwan a'r tlawd. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1939. Diweddariad gan Catrin Puw Davies, 1995. Rhagymadrodd gan Sioned Lleiniau.