“Gwyddwn fod ’rhen Mathers wedi’i lorio gan bwmp beic haearn, wedi’i ddarnio i farwolaeth â rhaw drom ac wedyn wedi’i gladdu’n ddiogel mewn cae. Gwyddwn hefyd fod yr un dyn bellach yn eistedd yn yr un stafell â mi, yn fy ngwylio mewn distawrwydd. Roedd ei gorff wedi’i rwymo ond roedd ei lygaid yn fyw ac felly hefyd ei law dde ac felly hefyd yntau o’i gorun i’w sawdl. Hwyrach mai hunllef oedd y llofruddio min ffordd...”