Yn yr 1930au, gwnaed dwy daith mewn dwy wlad - Gwyddel yng Nghymru a Chymro yn Iwerddon - a dyna ddeunydd Y Naill yng Ngwlad y Llall . Am y tro cyntaf, mae'r ddwy daith yn cael eu cyhoeddi gyda'i gilydd. Mae'r dulliau o deithio ac o dderbyn caredigrwydd pobl y wlad yn ddiddorol, ac mae argraffiadau'r naill o wlad y llall yn berthnasol iawn o hyd.