Mae'r gyfrol yn canolbwyntio ar anghenion iechyd a gofal pobl yn ardaloedd y llechi yn Nyffryn Peris a thu hwnt. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth, roedd dros 14,000 o chwarelwyr yng Ngwynedd. Roedd peryglon y gwaith a'r heintiau a'r afiechydon a godai o'r tlodi a'r diffyg darpariaeth iechyd, yn cyfrannu at anghydfodau diwydiannol.