Mae Glyn a'r Difa yn paratoi i fynd i Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn eu carafan. Pâr priod canol oed o Gaerdydd yw'r ddau, sy'n mynychu'r Steddfod ers blynyddoedd lawer, am resymau cwbl wahanol i'w gilydd. Ond wedi cwrdd â hen ffrindiau, daw atgofion o'r gorffennol i aflonyddu'r cof a chaiff cyfrinachau'r dyddiau gynt eu datgelu.