Dwy ferch ar ddau gyfandir. Un lord ag awch am elw. Stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg.
Nofel hanesyddol a dirdynnol gan yr awdur profiadol Angharad Tomos. Mae'r stori'n mynd â ni i gastell mawreddog Penrhyn, ac i blanhigfeydd echrydus Jamaica, wrth ddilyn hanes dwy ferch ifanc, Dorcas ac Eboni. Dyma nofel sy'n ceisio mynd i'r afael â'r cysylltiad sydd gan Gymru yn y bennod erchyll hon yn hanes dynolryw.