Nofel sy'n troi o gwmpas tri chymeriad, Enoch, Isaac ac Owen. Mae'r stori'n dechrau pan ddaw Owen i aros mewn adfail o fwthyn ar dir fferm fynyddig. Nofel delynegol, gynnil, a byd natur yn ganolog i'r digwyddiadau cofiadwy. Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2016.