'Os daeth un peth da o Brexit, y nofel yma ydi hwnnw!' Dyna eiriau Rhys Iorwerth am Y Bwrdd . Dilynir Carwyn o'r Tymbl sy'n gweithio i'r 'Bwrdd' yng Nghaerdydd ac sy'n bartner i Laticia o Valencia ac yn dad i Awel. Portreadir byd undonog ei swyddfa mewn cyferbyniad â'i angerdd at goginio ac alcohol.