Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif oedd Williams Pantycelyn
gan Saunders Lewis, ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd ffordd newydd i ddehongli athrylith emynydd Pantycelyn, gan sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei gyfnod. Rhagymadrodd helaeth gan D. Densil Morgan.