Nid rhestr hirfaith yw hon o bob gair Cymraeg fydd ei angen arnoch i ymdopi gyda Chymraeg lefel Mynediad i oedolion. Rhestr o eirfa graidd yw hon ac mae'n seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr ym maes geirfa/Cymraeg i Oedolion. Dyma'r geiriau fydd angen i chi eu gwybod erbyn diwedd y cwrs lefel Mynediad. Bydd y maint hwylus yn golygu y bydd yn ffitio'n dwt mewn bag.