Mae Gwilym Puw yn gweithio (ers blynyddoedd, bellach) fel swyddog arolygu ysgolion, ac yn hen gyfarwydd â'r anesmwythdra dybryd a gyneuir yng nghalon pob athro o glywed am ymweliad ganddo ef a'i gyfoedion o dîm 'Gorestyn'. Fodd bynnag, un diwrnod mae Gwilym yn dechrau gweld y byd drwy lens gwahanol, rywsut - sy'n peri iddo gwestiynu popeth...
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Neil Rosser yn Nhreforus, ac fe'i magwyd yn Llwynbrwydrau, Llansamlet. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las ac Ysgol Ystalyfera. Cafodd addysg bellach ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Bywyd wedi hynny! Mae wedi ymddeol o fod yn athro ysgol ers dwy flynedd. Mae'n gerddor ac yn ganwr adnabyddus, ac mae bellach yn gitarydd i'r band Pwdin Reis. Yn ei amser hamdden, mae’n joio gwaith pren, garddio a chefnogi’r "Swans".