Mae Twm yn derbyn hadau blodau yn y post gan ei ffrind, Siôn. Mae o'n dysgu beth sydd angen ar blanhigyn, a bod rhoi anrheg yn teimlo'n dda. Mae'r gyfres hon yn hybu llythrennedd, lles ac iechyd meddwl da, gan ddilyn y model Pum Ffordd at Les. Llyfr llafar a gweithgareddau ar gael ar lein am ddim.