Dyma gyfrol hirddisgwyliedig o gerddi newydd gan Gwyneth Lewis - cyfrol sy'n myfyrio ar y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch. Yma, mae Gwyneth yn defnyddio egwyddor y treigladau - meddal, llaes, trwynol a chaled - i fyfyrio ar golli ei thad a'i Gymraeg Beiblaidd, coeth.