Cyfrol llawn gwybodaeth yn dilyn arfordir Cymru o Gas-gwent i Lannau Dyfrdwy gan olrhain cyfraniad cyfoethog y genedl Gymreig i forwriaeth, yn cynnwys manylion am adeiladwyr a pherchnogion llongau, amrywiaeth masnach y môr, bywyd morwyr, smyglwyr a môr-ladron gan arbenigwr yn y maes. 80 ffotograff du-a-gwyn ac 1 map.