Ar �l i'r Athro Efflwfia gael ei herwgipio a'i ddwyn i deml anghysbell i'r haul fry yn uchelderau'r Andes, mae Tintin a'i ffrindiau yn anelu am Dde America er mwyn ceisio dod o hyd iddo. Ond eu ffawd yw bod yn garcharorion i'r Incas, a'u tynged yw marwolaeth - hyd nes i'r goleuni ildio i'r tywyllwch...