Dilyniant hirddisgwyliedig i Tinboeth
. Cyfrol arall o straeon erotig, ond mae mwy o straeon yn hon - deuddeg gan ddeuddeg o awduron, y rhan fwyaf ohonynt wedi cyhoeddi cyfrol neu gyfrolau o'u gwaith eu hunain, ac yn cael eu hystyried ymhlith prif awduron Cymru heddiw. Unwaith eto, mae'r straeon yn amrywiol o ran naws - rhai yn dyner a chynnil, eraill yn fwy uniongyrchol.