Argraffiad newydd o'r clasur o nofel gan T. Llew Jones. Cawn hanes anturiaethau Tim, un o blant y sipsiwn, a adewir yn amddifad ar gomin Glanrhyd wedi i'w daid farw, heb ddim ond carafan, caseg, a'r ebol a anwyd ar y noson y bu farw'r hen ŵr. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf ym mis Mehefin 1975. Enillydd gwobr Tir na n-Og 1976.