Dyma stori ddoniol mewn odl o galon y goedwig, sy'n ein rhybuddio am y perygl o fod yn rhy daclus. Mae Morgan y Mochyn daear yn mynnu cadw pob peth yn dwt ac yn daclus o hyd ond, mae'r weithred ddiniwed o gasglu un ddeilen anniben o'r llawr, yn arwain at ddistryw mawr yn y goedwig. A fydd Morgan yn sylweddoli ei gam gwag, ac a fydd yn medru adfer y goedwig?