Portread mewn llun a gair o'r Parch T. Eirug Davies (1892-1951); mae'n cynnwys rhagair gan ei fab sy'n cynnig cipolwg ar fywyd y gwrthrych gan dalu sylw arbennig i'w syniadau a'i argyhoeddiadau yng ngoleuni digwyddiadau ei gyfnod. Prif sylwedd y testun yw casgliad o 377 o ddelweddau [ffotograffau, torion papur newydd, taflenni, llawysgrifau a llythyrau] gyda nodiadau eglurhaol.