Ffermwr, gwerthwr wyau, actor, canwr, adroddwr, cynhyrchydd dramâu, arweinydd corau, cymanfaoedd a nosweithiau llawen ... prin iawn ydi'r bobl sydd wedi cyfuno cymaint o weithgareddau yn ystod ei oes - Gwilym Griffith, Llwyndyrys. Mae hiwmor a hynawsedd yr awdur yn pefrio ar bob tudalen, ynghyd â phortread cynnes o gymuned Gymreig fywiog.