Wyth niwrnod o Eisteddfod yn y Bae. Wyth stori fer newydd sbon. Wyth awdur, pob un wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, waeth ble mae'u gwreiddiau. Wyth cyfle i ail-fyw profiadau cyffrous Pabell Lên Canolfan y Mileniwm. Wyth cip ar fywyd pobl Cymru â ddoe, heddiw ac yfory.