Mae digwyddiadau'r nofel yn para dros gyfnod o tua 24 awr mewn dinas yng Nghymru yn y dyfodol agos. Mae'n dilyn Nathan a Sadia, sy'n gariadon, wrth iddyn nhw fynychu cyngerdd. Yn ystod y gyngerdd mae ffrwydriad ac mae'r ddau'n cael eu gwahanu. Mae agweddau a rhethreg hiliol wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar yn sgil sefyllfa economaidd fregus y wlad, a gwleidyddion asgell-dde.