Mae hanes Cymru yn llawn straeon. Straeon doniol, trist, cyffrous, arwrol a hudolus. Eto un stori yw hi, mewn gwirionedd. O oes i oes, o fro i fro, gallwn weld yr un un stori drachefn a thrachefn drwy Gymru gyfan gan glymu'r cymoedd a'r dyffrynnoedd i gyd yn un wlad: gelyn yn ymosod; y Cymry yn gwrthsefyll ac yn y diwedd yn goroesi.