Sonedau Nos Sadwrn oedd teitl cyfrol gyntaf Iwan Llwyd yn 1981, ac fel un a gafodd ei ddenu at farddoniaeth drwy fwynhau gwaith T. H. Parry-Williams yn wreiddiol, does ryfedd bod mesur y soned wedi apelio ato. Daw delweddau'r clawr o gasgliad diweddaraf Catrin Williams.