Pwy oedd Bull McCabe? Beth oedd natur y berthynas rhwng yr hen Frenhines Fictoria a'i 'chariadlanc' o India? Pa gysylltiad sydd rhwng T. H. Parry-Williams a Mistar Chips? Sut tybed y daeth un o ddramâu coll Cynan i'r fei? Pam defnyddio'r ymadrodd 'Ych a Fi' mewn cyswllt â Syr Thomas Parry o bawb? Sut fath o hiwmor yw hiwmor pobol capal?