Cyhoeddir y casgliad newydd hwn o garolau plygain wrth i'r carolwyr baratoi i ailafael yn y traddodiad ar ôl bwlch o bron i dair blynedd - bwlch na welwyd ei debyg o fewn cof unrhyw un.
Yn ystod y 'clo mawr', profodd y ddwy Blygain 'rithiol' ar y we [Rhagfyr 2020 a Ionawr 2021] fod carolwyr ym mhob rhan o Gymru yn benderfynol o ddal ati. Trwy ychwanegu at y stoc o garolau, y gobaith yw rhoi hwb pellach i'r hen draddodiad gwydn hwn.
Fel atodiad i'r carolau yn y gyfrol hon, ychwanegwyd rhywbeth a esgeuluswyd braidd hyd yn hyn, sef hanes y bobl a fu wrthi ar hyd y blynyddoedd yn cynnal y traddodiad. Nid pobl yn chwennych bri ac enwogrwydd oedd y rhain; ond dyletswydd unrhyw genedl gwerth ei halen yw cydnabod eu cyfraniad, cyn
i’w hanes fynd yn rhan o "hen bethau anghofiedig teulu dyn".