Mae Sara yn cael diwrnod gwael. I ddechrau, roedd problem gyda'i hosan, yna roedd un bysen fach ryfedd ar ei phlât... Ac yn sydyn, daeth y Stranc i darfu arni! Beth all Sara ei wneud ar ddiwrnod fel hwn? Mae gan Sara lawer i'w ddysgu am stranciau yn y llyfr doniol hwn sy'n taclo hwyliau drwg, gan Nadia Shireen. Addasiad Cymraeg gan Endaf Griffiths.