Llyfr am hanes, rhyfel a theithio gan yr awdur, y bardd a'r darlithydd Llŷr Gwyn Lewis. Dyma blethiad hyfryd o ffaith a ffuglen a'i chanolbwynt ar y cof a sut yr ydym ni'n coffau. Trwy bytiau cofiannol, ysgrifau taith, ffotograffau, dyddiaduron, cofnodion a llenyddiaeth cawn gydgerdded â'r awdur rhwng cwsg ac effro ar hyd llwybrau'r cof a'r dychymyg.