Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o Ratburger
gan David Walliams. Mae llond trol o bethau'n poeni Begw, druan... Mae ei llysfam mor ddiog nes ei bod yn gofyn i Begw bigo'i thrwyn trosti ac mae bwli'r ysgol wrth ei bodd yn poeri ar ei phen. Ond yn waeth fyth mae gan Bryn, y dyn byrgyrs afiach, gynlluniau ofnadwy ar gyfer ei llygoden fawr hi...