Nofel afaelgar yn troi o gwmpas Gwen a Rosa. Mae Gwen yn dechrau ar ei swydd gyntaf fel athrawes a Rosa, yn ei hwythdegau, wedi dod o'r Eidal i Gymru i redeg caffi ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae datblygiad eu perthynas yn ganolbwynt i'r stori ond mae'r ddwy'n cuddio cyfrinachau sy'n cael eu datgelu'n raddol ac yn gelfydd.