Ar ôl darganfod eu bod yn disgwyl babi, mae cwpwl ifanc yn dianc o ogledd Cymru ac yn dechrau bywyd newydd yng Nghaerdydd. Caiff y darpar dditectif Sally Morris ei chyflogi gan y teulu gofidus i chwilio am eu merch gan ddechrau ar antur gyffrous a pheryglus sy’n ei harwain i isfyd tywyll y brifddinas, diwydiant twristiaeth Aberaeron ac i galon lwgr y mynydd copr.