Cyfrol o ysgrifau ac erthyglau byr, bachog gan un a dreuliodd ei oes yn y Gymru Gymraeg ac yn ymwneud â'r 'pethe'. Ceir yma beth edrych yn ôl, sylwadau ar agweddau o'r Gymru gyfoes, ar fyd addysg a chrefydd, a chofir am amryw o Gymry, rhai yn ffigyrau cenedlaethol, rhai eraill teilwng nad oes coffa amdanynt.