Nofel gyffrous ac anturus yn adrodd hanes dau gyfnod cythryblus yn hanes bywyd DS Rolant Price o Adran Dditectifs Gerddi Hwyan. Mae un rhan o'r stori yn canolbwyntio ar ymdrechion obsesiynol 'Rol' i ddal troseddwr rhyw a llofrudd sy'n ysbeilio ar ferched ifanc yn y dref; a'r rhan arall yn dilyn ei ymdrechion i wella o'r chwalfa nerfol a brofodd yntau.