Daw stori Pwyll a Rhiannon o gainc gyntaf y Mabinogi. Gyda’i helfa gyffrous, rhamant, twyll a dewiniaeth, cawn gipolwg ar fyd llawn antur, serch a brad. Mae'r chwedl hynafol hon wedi ei hadrodd a'i hailadrodd ar hyd y canrifoedd, mae ei gwreiddiau'n ddwfn yng ngorffennol pell y Celtiaid Cymreig ac mae wedi ysbrydoli sawl chwedl newydd. Testun dwyieithog.