Pwy ydw i? Delyth Ty Capel; Delyth, chwaer Enfys; Delyth gwraig Lloyd Penbryniau; Delyth, mam Huw a Llinos. Mae Delyth wedi cyrraedd ei chanol oed heb unwaith roi ei hun yn gyntaf. Wnaeth hi erioed ddewis cwrs ei bywyd - dim ond dewis priodi ffermwr cyn syrthio i rigol byw a magu plant.