Llyfr lliwgar yn cynnwys 14 o bosau geiriau am y fferm, yr ysgol, lliwiau, dillad, a llawer mwy. Dyma gyfle perffaith i ymarfer dy eiriau Cymraeg cyntaf drwy gyfrwng amrywiaeth o bosau a gemau difyr. Bydd y darluniau hyfryd yn help i ddatrys y posau, ac fe gei di ymarfer yr wyddor hefyd. Mae'r atebion i gyd yng nghefn y llyfr, ynghyd a rhestr eiriau wedi'i gosod yn nhrefn yr wyddor.