Roedd Elin wedi meddwl y byddai bywyd yn haws ar ôl iddi wneud y penderfyniad i adael ei gŵr a dechrau perthynas â ffrind bore oes yn Iwerddon... ond doedd hynny ond dechrau gofidiau. Buan y mae'n darganfod nad yw cynnal perthynas o bell a cheisio trefnu ysgariad ar yr un pryd yn fêl i gyd, a bod sawl un â'u bryd ar chwalu ei breuddwydion yn yfflon.