Cyfres newydd yn amcanu at gyflwyno detholion o lenyddiaeth Gymraeg o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Yn y gyfrol hon, ceir detholiad o drysorau rhyddiaith mwyaf hudolus a chyfarwydd yr Oesoedd Canol, yn llawn hud a lledrith a champau ac anturiaethau rhyfeddol i ddifyrru darllenwyr heddiw fel deiliaid y llysoedd gynt.