Mae'r llyfr hwyliog hwn yn codi nifer o gwestiynau gan fachgen bach direidus. Mae i'r gyfrol eirfa syml ar ffurf mydr ac odl drwyddi draw, gyda delweddau inc lliwgar i asio â’r testun. Wrth i’r gyfrol fynd rhagddi, bydd y cwestiynau chwareus yn mynd yn fwyfwy dros ben llestri wrth i’r bachgen leisio ei rwystredigaethau.