Gêm i 2-4 o chwaraewyr. Gêm sy'n hyrwyddo gwaith llafar, gwaith meddwl a sgiliau dwyn i gof sy'n meithrin a datblygu iaith. Nod y gêm ydy llenwi'r cês â'r hyn sydd ei angen i fynd ar wyliau i wahanol ardaloedd. Addas ar gyfer chwaraewyr sydd â'r Gymraeg yn famiaith neu'n ail-iaith iddynt.