Cerddi am orfoledd – dyma oedd yr alwad agored i "feirdd benywaidd o bob cefndir" flwyddyn yn ôl. A dyma'r flodeugerdd wedi dwyn ffrwyth, gyda chyfraniadau gan leisiau cyfarwydd a lleisiau newydd sbon. O gerddi tyner i rai swnllyd a doniol, cewch flasu amrywiaeth o farddoniaeth yn y gyfrol hon - wedi eu cyfuno â gwaith celf dychmygus Myths n Tits - i ddathlu benyweidd-dra yn ei gyfanrwydd.
Poems about joy - this was the open call to "female poets from every background" about a year ago. The anthology has bore its fruits, with contributions from familiar and brand new voices. From tender poems to noisy and funny ones, you'll get to taste a range of poetry in this volume - combined with the imaginative artwork of Myths n Tits - to celebrate womanhood in its entirety.