Sawl rhywogaeth o ystlumod sydd yng Nghymru? Pryd yr arferid hela'r dryw? Pa goeden sy'n cadw gwrachod draw? Mae Twm Elias yn llais cyfarwydd ar raglen 'Galwad Cynnar' Radio Cymru ar foreau Sadwrn, yn rhannu ei wybodaeth am ryfeddodau byd natur. 85 llun du a gwyn a 2 fap.