Merch dawel a swil yw Alys, sy'n ddigon hapus yn gweithio yng nghegin ysgol y pentref... hynny yw, nes i'r gegin honno gau. Penderfyna wneud cais am swydd mewn bwyty lleol sydd newydd gael ei brynu gan gogydd teledu enwog - cogydd sydd ddim yn hoffi'r syniad o ferched yn gweithio yn ei gegin.