Nofel dditectif gyffrous wedi'i lleoli yn nhref ddychmygol Gerddi Hwyan, ger Caerdydd. Ar ôl cael ei hebrwng am noson o waith gan Mr Blaidd daw diwedd sydyn i fywyd putain ifanc yn y dref. Wrth i'w hefaill ddod draw i ymchwilio i'r dirgelwch daw i adnabod yr heddlu llwgr, darpar gariad a nifer o gymeriadau rhyfeddol a chwedlonol eraill sy'n ei harwain at y llofrudd.