Caneuon cyfarwydd yn y Gymraeg a’r Saesneg gan y ddeuawd boblogaidd o Wynedd.
Dyma ail gasgliad o ffefrynnau canu gwlad wedi eu dethol gan y ddeuawd boblogaidd o Wynedd – Dennis Williams sy’n byw ym Môn a Glyn Jones sy’n dod o Trefor, sy’n rhoi enw’r grwp i ni.
Mae eu steil cerddorol wedi ei seilio ar ganeuon canu gwlad fel sy’n cael ei berfformio gan gantorion Gwyddelig ac Americanaidd, a chyfieithodd y ddau nifer o ganeuon gan roi gwedd newydd iddynt.
Bu’r ddau’n rhoi adloniant mewn canolfannau lleol ers blynyddoedd, pan oedd Glyn yn brif leisydd efo grwp trydan cyntaf Cymru “Y Caballeros”, ac roedd Dennis gyda’r Caballeros a’r “New Castaways”. Mae’r ddau’n offerynwyr gwych, yn lleisio ac yn harmoneiddio’n gampus.
Yn ystod y flwyddyn a hanner ers cyhoeddi’r CD cyntaf Adref yn ôl, crwydrodd y ddau sawl milltir a chyfarfod nifer o ffrindiau newydd. Ar y casgliad newydd, cawn ganeuon cyfarwydd yn y Gymraeg a’r Saesneg, a bydd y recordiad yma’n sicr o ehangu cylch eu dilynwyr yn fwy fyth.