Mae ‘Yr Eira Mawr’ yn gasgliad o ganeuon amrywiol a deinamig, sy’n plethu arddulliau gwerin, gwlad, Americana, reggae a roc i greu swn acwstig amgen ac unigryw. Albym 15 trac sy’n cynnwys dehongliad Mim Twm Llai o ‘Pam fod eira yn wyn? gan Dafydd Iwan a ‘Merch y ffatri wlân’ gan Meic Stevens. Ysbrydoliaeth bennaf Mim Twm Llai yw ardal chwarelu Blaenau Ffestiniog, sef bro ei febyd, a chawn gyflwyniad o fywyd a chymeriadau unigryw'r ardal trwy ei ganeuon hwyliog, ffres a chlyfar. Yn ogystal â hyn, clywir cân yn adrodd hanes y bardd enwog, Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) a chaneuon yn cwestiynu materion amgylcheddol a gwleidyddiaeth y byd. Dyma drydedd ac albym olaf Mim Twm Llai, bydd Gai Toms (prif ganwr a chyfansoddwr) yn parhau i gyfansoddi a recordio o dan enw ei hun ac mi fyddwch yn siwr o weld Gai a’i fand yn perfformio mewn amryw o leoliadau yng Nghymru a thu hwnt yn y blynyddoedd nesaf.
Traciau -
01 - Mor dda i mi
02 - Ellis Humphrey Evans
03 - Byd i'w weld yn grwn
04 - Gerallt Gymro
05 - Merch o'r Ffatri Wlân
06 - Cymru Contimental
07 - Fiskesteinen
08 - Nansi Jones
09 - Pam fod Eira'n Wyn?
10 - Can Trist
11 - Deja Vu (Breuddwyd Gwen)
12 - 'Da ni'n gwrando eto?
13 - Yr Eira Mawr
14 - Iesu Grist Nefoedd yr Adar
15 - Y Daith.